Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 52(5)(b) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
|
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU Drafft
2012 Rhif (Cy. )
IECHYD MEDDWL, CYMRU
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
1. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer darpariaeth ranbarthol at ddibenion Rhannau 1 a 3 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”).
2. Mae Rhannau 1 a 3 o’r Mesur yn cael eu datgymhwyso o ran ardaloedd yr holl awdurdodau lleol sydd wedi eu rhestru yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn (rheoliadau 3(1) a 4(1)).
3. Wedyn mae Rhannau 1 a 3 o’r Mesur ac i’r graddau y mae angen hynny, mae Rhannau 5 a 6 o’r Mesur yn cael eu cymhwyso o ran ardaloedd cyfun yr awdurdodau lleol sydd wedi eu grwpio gyda’i gilydd yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn. Yr enw ar ardaloedd cyfun y grwpiau hyn o awdurdodau lleol yw “rhanbarthau” (rheoliadau 3(2) a 4(2)).
4. Mae’r partneriaid iechyd meddwl lleol i bob rhanbarth wedi eu dyrannu yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn (rheoliadau 3(3) a 4(3)).
5. Mae eithriad yn cael ei wneud i’r modd y mae Rhan 1 o’r Mesur yn cael ei datgymhwyso a’i chymhwyso at ddibenion adrannau 6, 7 ac 8. Mae’r eithriad hwn yn golygu nad yw darpariaeth ranbarthol yn gymwys at ddibenion adrannau 6, 7 ac 8, ac eithrio i’r graddau y mae’r adrannau hynny’n ymwneud â chynllun ar gyfer rhanbarth (fel y cyfeirir ato yn adran 2(4) a (5) o’r Mesur) yn adrannau 7(6) ac 8(2) a (5) (rheoliad 3(4)).
6. Mae eithriad yn cael ei wneud i’r modd y mae Rhan 3 o’r Mesur yn cael ei datgymhwyso a’i chymhwyso at ddibenion adrannau 19, 22 a 29. Mae’r eithriad hwn yn golygu nad yw darpariaeth ranbarthol yn gymwys at ddibenion adrannau 19, 22 a 29 i’r graddau y mae’r adrannau hynny’n ymwneud â hawl oedolyn i gael asesiad, neu â phenderfynu man preswylio arferol oedolyn yn ôl ardaloedd yr awdurdodau lleol er mwyn sefydlu hawl yr oedolyn hwnnw i gael asesiad (rheoliad 4(4)).
7. Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â chostau a buddion tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 52(5)(b) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
|
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU Drafft
2012 Rhif (Cy. )
IECHYD MEDDWL, CYMRU
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45, 46 a 52(2) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010([1]).
Mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 52(5)(b) o’r Mesur, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau
hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru)
2012.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a) i’r graddau y maent yn ymwneud â darpariaeth ranbarthol ar gyfer Rhan 1 o’r Mesur, yn union ar ôl i adran 45 (Rhan 1: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol) o’r Mesur ddod i rym ar 8 Mai 2012; a
(b) at bob diben arall, yn union ar ôl i adran 46 (Rhan 3: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol) o’r Mesur ddod i rym ar 6 Mehefin 2012.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Darpariaeth ranbarthol ar gyfer Rhan 1 o’r Mesur
3.—(1)(1) Yn ddarostyngedig i
baragraff (4), er mwyn sicrhau darpariaeth ranbarthol yn unol
â’r hyn a ddarperir yn adran 45 o’r Mesur mae
Rhan 1 (gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol)
o’r Mesur wedi ei datgymhwyso o ran ardaloedd yr awdurdodau
lleol a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae Rhan 1 ac i’r graddau y mae angen hynny mae Rhannau 5 (cyffredinol) a 6 (amrywiol ac atodol) o’r Mesur wedi eu cymhwyso o ran ardaloedd cyfun yr awdurdodau lleol a nodir ac a grwpir gyda’i gilydd fel rhanbarthau yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion Rhan 1 o’r Mesur mae’r partneriaid iechyd meddwl lleol i bob rhanbarth wedi eu dyrannu yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
(4) Nid yw adrannau 6 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau ar gyfer cleifion cofrestredig mewn gofal sylfaenol), 7 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal sylfaenol eraill) ac 8 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal iechyd meddwl eilaidd) wedi eu datgymhwyso at ddibenion paragraff (1) nac wedi eu cymhwyso at ddibenion paragraff (2) ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â’r cynllun y cyfeirir ato yn adran 2(4) neu 2(5) (cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol) i’r rhanbarth yn adrannau 7(6) ac 8(2) a (5).
Darpariaeth ranbarthol ar gyfer Rhan 3 o’r Mesur
4.—(1)(1) Yn ddarostyngedig i
baragraff (4), er mwyn sicrhau darpariaeth ranbarthol yn unol
â’r hyn a ddarperir yn adran 46 o’r Mesur mae
Rhan 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd
meddwl eilaidd) o’r Mesur wedi ei datgymhwyso o ran ardaloedd
yr awdurdodau lleol a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau
hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae Rhan 3 ac i’r graddau y mae angen hynny mae Rhannau 5 (cyffredinol) a 6 (amrywiol ac atodol) o'r Mesur wedi eu cymhwyso o ran ardaloedd cyfun yr awdurdodau lleol a nodir ac a grwpir gyda’i gilydd fel rhanbarthau yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion Rhan 3 o’r Mesur mae’r partneriaid iechyd meddwl lleol i bob rhanbarth wedi eu dyrannu yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
(4) Nid yw adrannau 19 (trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd), 22 (hawl i asesiad) a 29 (penderfynu man preswylio arferol), wedi eu datgymhwyso at ddibenion paragraff (1) nac wedi eu cymhwyso at ddibenion paragraff (2) i’r graddau y maent yn ymwneud â’r canlynol—
(i) hawl oedolyn i gael asesiad; a
(ii) penderfynu man preswylio arferol yr oedolyn hwnnw er mwyn sefydlu’r hawl i gael asesiad ar y sail bod man preswylio arferol yr oedolyn hwnnw mewn ardal awdurdod lleol.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad
ATODLEN 1
Rheoliadau 3(1) a 4(1)
Ardaloedd awdurdodau lleol sydd wedi eu datgymhwyso er mwyn sicrhau darpariaeth ranbarthol ar gyfer Rhannau 1 a 3 o’r Mesur
Cyngor Bro Morgannwg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cyngor Caerdydd
Cyngor Dinas Casnewydd
Cyngor Gwynedd
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Ceredigion
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir Mynwy
Cyngor Sir Penfro
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Sir Ynys Môn
Dinas a Sir Abertawe
ATODLEN 2
Rheoliadau 3(2) a (3) a 4(2) a (3)
Y ddarpariaeth ranbarthol a’r partneriaid iechyd meddwl lleol sydd wedi eu dyrannu ar gyfer Rhannau 1 a 3 o’r Mesur
Colofn 1 |
Colofn 2 |
Ardaloedd yr awdurdodau lleol (neu’r rhannau ohonynt) a gymhwysir fel rhanbarthau |
Y partneriaid iechyd meddwl lleol |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Cyngor Gwynedd Cyngor Sir Ddinbych Cyngor Sir y Fflint Cyngor Sir Ynys Môn |
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Cyngor Gwynedd Cyngor Sir Ddinbych Cyngor Sir y Fflint Cyngor Sir Ynys Môn |
Cyngor Sir Caerfyrddin Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Sir Penfro |
Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda Cyngor Sir Caerfyrddin Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Sir Penfro |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Dinas a Sir Abertawe |
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Dinas a Sir Abertawe
|
Cyngor Bro Morgannwg Cyngor Caerdydd |
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro Cyngor Bro Morgannwg Cyngor Caerdydd |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf |
Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen Cyngor Dinas Casnewydd Cyngor Sir Mynwy |
Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen Cyngor Dinas Casnewydd Cyngor Sir Mynwy |